Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2017
Amser:
09.02 -
12.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4405
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Simon Thomas AC Gareth Howells Joanne McCarthy, Y Gwasanaeth Ymchwil Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Gareth David Thomas Hannah Johnson (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Bethan Jenkins AC.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Mick Antoniw AC fel aelod newydd ar y Pwyllgor, yn lle Joyce Watson AC, a diolchodd i Joyce Watson AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Simon Thomas AC, Aelod Cyfrifol
· Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad
· Joanne McCarthy, Y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn y Cynulliad
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
· Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau
· Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Cyfreithiol a Llywodraethu
3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddarparu nodyn i gynnwys dadansoddiad o themâu cwynion am wasanaethau'r Ombwdsmon, o'r adolygiad allanol annibynnol a gynhaliwyd.
4.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.
4.2.a Nododd y Pwllgor Lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.
4.3.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip a’r Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19
4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem3.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at yr Aelod sy'n gyfrifol am y materion a godwyd.
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.